Digwyddiadau
Mae gan Abba Loos ystod eang o wasanaethau a chyfleusterau toiled i'w llogi a
fydd yn bodloni'ch anghenion; Os yw'n barti bach neu'n babell fawr, cyngerdd neu
ddigwyddiad corfforaethol mwy, priodas, sioe neu ddigwyddiad yn yr awyr agored,
gallwn ddiwallu'ch anghenion. Mae'n prisiau yn gystadleuol ac rydym yn fodlon
rhoi pris yn rhad ac am ddim i chi ar gyfer unrhyw un o'n gwasanaethau ac unedau
toiledau cludadwy symudol. Ffoniwch neu anfonwch
eBost atom heddiw!
|
|
Abba Loos toiled cludadwy s at an event
|
Unedau Safonol
Unedau tynny dwr llawn gyda golchwyr dwylo gwrth-facteria.
Unedau Golchi Dwylo
Unedau tynny dwr llawn gyda sinciau dwr oer, sebon hylif, tyweli papur a bin 'sbwriel.
Unedau ar gyfer yr Anabl
Unedau tynnu dwr llawn wedi eu cynllunio'n arbennig ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. Rampiau gwrth-lithro, barrau o fewn yr uned ar gyfer symud, a'r offer wedi ei osod ar lefel isel.
|
|
Mewn Digwyddiad - gyda Uned Anabl
|
Unedau Dynion
Unedau dwr dynion gyda sgrin breifatrwydd ar bob pen.
Unedau Newid Babi
Unedau newid babi gyda thoiled integredig ar gyfer rhieni gyda babanod neu blant ifanc. Mae'r unedau'n ddigon mawr ar gyfer rhiant, plant a phram.
Gall Abba Loos gynnig y gwasanaethau ychwanegol canlynol:
Ymweliadau gwasanaeth
|
|
Tu Mewn Uned Anabl
|
- Ar gyfer digwyddiadau sy'n mynd ymlaen am gyfnod hwy na diwrnod. Bydd peiriannydd yn ymweld â'r safle ar ôl y diwrnod cyntaf i wagu a glanhau'r unedau ac ail-stocio'r deunyddiau defnyddadwy
Gwasanaeth ar safle
- Gall peiriannydd a cherbyd gwasanaethu fod ar y safle i wneud yn siwr fod y toiledau'n cael eu cadw'n lân drwy'r dydd ac i ail-stocio'r papur, rhag ofn iddo redeg allan erbyn amser cinio
|