Top
Amdanom Ni Digwyddiadau Priodasau Uned Uwchraddol Adeiladu Cysylltu â Ni

Amdanom Ni

Ble bynnag a phryd bynnag y bydd angen uned toiled cludadwy symudol arnoch -cysylltwch â ni!

Llogi toiledau cludadwy yng Nghymru - Abba Loos

Abba Loos - Mobile Portable Toilet Hire

Er 1991, mae Abba Loos wedi datblygu enw da wedi'i seilio ar ansawdd gwasanaeth a dibynadwyedd, ac o ganlyniad, bydd ein cwsmeriaid yn dychwelyd atom bob blwyddyn i ddelio â'u holl gofynion am doiledau cludadwy.

Rydym yn darparu ystod eang o wasanaethau a chyfleusterau llogi toiledau; gan gynnwys Pebyll Mawrion, Priodasau, Digwyddiadau Awyr Agored a Chyngherddau. Rydym hefyd yn cynnig Unedau i Bobl Anabl, Unedau Newid Cewynnau Babanod, Unedau Adeiladu; y gellir llogi pob un ohonynt am Gyfnod Hir os bydd angen.

Dyma rai digwyddiadau yr ydym wedi darparu ar eu cyfer... Pentref Ieuenctid Sioe Frenhinol Cymru, Network Q Rally GB, digwyddiadau haf Cyngor Dinas Abertawe ym Mharc Singleton, Welsh Game Fair, 1 Big Sunday Radio One...

Mae'n gwasanaethau llogi toiledau cludadwy ar gael ledled Cymru, byddwn yn dosbarthu ar yr adeg yr addawyd, a chaiff ein holl unedau toiled eu cynnal a'u cadw i'r safon uchaf gan ein Peirianwyr Abba Loos - Y cyfan fydd angen i chi ei wneud fydd defnyddio'r toiledau!
Mae'n holl doiledau yn hollol hunangynhwysol ac yn darparu toiledau sy'n tynnu dot ynghyd â phapur tþ bach, deunydd glanhau dwylo a'r holl nwyddau traul.
Mae'n prisiau yn gystadleuol a byddwn yn fwy na pharod rhoi pris yn rhad ac am ddim i chi ar gyfer unrhyw un o'n gwasanaethau ac unedau toiledau cludadwy symudol. Ffoniwch neu anfonwch eBost atom heddiw!

Mae Abba Loos wedi ei gofrestru â'r asiantaethau canlynol:

Gwasanaethu a gwaith cynnal a chadw o ansawdd i doiledau cludadwy Yn cydymffurfio â safonau gweithredu a osodwyd gan Asistantaeth yr Amgylcheddd

Portable Sanitation Europe

Asiantaeth yr Amgylchedd

Bottom